Jeremiah 29

Llythyr Jeremeia at yr Iddewon yn Babilon

1Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon gan y brenin Nebwchadnesar
29:1 cymryd yn gaeth … Nebwchadnesar Roedd hyn wedi digwydd yn 598 CC – 2 Brenhinoedd 24:14-17
.
2(Roedd hyn ar ôl i'r brenin Jehoiachin
29:2 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin.
a'r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a'r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.)
3Elasa fab Shaffan
29:3 Elasa fab Shaffan Aelod o deulu dylanwadol iawn. Brawd i Achicam oedd wedi cefnogi Jeremeia flynyddoedd ynghynt, ac ewyrth i Gedaleia, gafodd ei wneud yn llywodraethwr Jwda ar ôl i Jerwsalem gael ei choncro yn 586 CC
a Gemareia fab Chilceia aeth a'r llythyr yno. Roedden nhw wedi eu hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma'r llythyr:

4Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi eu hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: 5“Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw. 6Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. 7Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr Arglwydd drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”
8Achos dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion. d 9Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! Wnes i ddim eu hanfon nhw,” meddai'r Arglwydd.
10Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd e bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain. 11Fi sy'n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r Arglwydd. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. f 12Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando. 13Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon g, byddwch chi'n fy ffeindio i. 14Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r Arglwydd. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”
15“Ond mae'r Arglwydd wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi. 16Felly gwrandwch beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi: 17Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta. 18Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi ei melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth. 19Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi ei ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r Arglwydd.
20Felly – chi sydd wedi eich gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr Arglwydd. 21Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi. 22Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r Arglwydd dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’ 23Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel. Cysgu gyda gwragedd dynion eraill, a dweud celwydd tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi ei wneud,” meddai'r Arglwydd.

Llythyr Shemaia

24Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam: 25Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn, 26‘Mae'r Arglwydd wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifrifol am beth sy'n digwydd yn y deml. Ac mae rhyw wallgofddyn yn dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno. 27Dylet ti fod wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd. 28Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’”

29Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia. 30A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Jeremeia, 31“Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon: ‘Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: “Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!” 32Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr Arglwydd sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.”’”

Copyright information for CYM